Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna dringasom i fyny. Daethom i gyfarfod â lluaws o visitors yn drachtio dwfr y ffynnon fach loyw, lân, ar ochr y ffordd gul, cwpan garu ganddynt.

Yna daethom i olwg rhes o dai bychain tlodion, a elwir y Barracks, yng nghesail y mynydd, o'r golwg ac o gyrraedd y ddrycin yng nghysgod y graig; aethom i ofyn am dŷ Mari Jones. Dyma hi'n dyfod. Tebyg iawn i Siân Jones, y Garnedd, ei gwisg yr un fath, ac yn ysgafndroed fel hithau. Yr oedd merch iddi'n byw gyda hi, geneth gloff iawn. Wel, pe gwelsech chwi i gyn lleied o le y gall amgylchiadau gyfyngu ar greadur dynol. Un ystafell fechan, y gwely yn y gongl, y bwrdd bach wrth y tân, y cwpwrdd ac ychydig lestri ar ryw silffydd, ffenestr bach ac ychydig o hen lyfrau hen, hen. Fe ddywedodd wrthym fod y Person wedi ei pherswadio i werthu hen Feiblau tri chant oed iddo fo. Yr oedd yn ddrwg gennym iddi wneud, oblegid hen Fethodist ydyw hi a'i theulu erioed.

Wel, fe gawsom sgwrs â hi. Cofiai bopeth, a chefais lawer iawn o eglurhad ar hen hanes mewn perthynas â Than y Castell, oblegid bu'n byw flynyddoedd yn ymyl y tŷ, mewn bwthyn sydd yn awr wedi myned yn adfeilion, yn y lle y mae fy mrawd wedi plannu coed.

Yr oedd fy nain yn byw yn y tŷ nesaf i'r afon, a'r ty croes yn un tŷ, a modryb Margiad yn y tŷ canol. Wedi hynny aeth fy nain i'r tŷ croes, a rhoes y tŷ nesaf i'r afon i Modryb Mary. Pan oedd