Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ferth a dim a ysgrifenodd. Y mae "Neithor Adda" yn rhy drwsgl: nid cân llenor mohoni, ond—Wedi gadael hono a rhigwm "Evan Benwan," yr ydym yn dyfod i lwybrau mwy dyogel. Nid oes ond hawddgarwch y dychymyg yn disgleirio trwy y fath ganeuon a Gwraig y Llong a Merch y Fellten," "Ni bu farw un," Priodas yr Asgell Fraith," ac "Wrth rodio un Prydnawn." Y maent oll yn hedfan dros ffiniau y materol; ond y maent mor naturiol a llewyrch yr haul rhwng glasgoed, neu oleu y lloer ar y werdd-dòn. Ac ni fu ei ddychymyg yn fwy ysgafn—galon erioed nag yn rhai o'r caneuon hyn. Y mae yr adar yn "Mhriodas yr Asgell Fraith" yn adar mor òd o ddynol; pa un ai

Gwas y Gog i'r briodas hon
Yn colli diwrnod gwaith,—

neu "Aderyn y Tô yn myn'd o'i go'," wrth ddweyd "lwc dda! lwc dda!"—neu'r Dryw

yn hwmian un, dau, tri,
A phedwar, pump, chwech, saith.

Mewn teimlad arall y mae y dychymyg yn canu "Ni bu Marw Un." Yn y gân fechan, gelfydd hono, y mae y bardd yn rhoddi mynegiant dedwydd i ystyr gyfrin anfarwoldeb llenyddol. Y mae bywyd ac awen y bardd a'r cerddor yn aros mewn dylanwad anweledig yn nheithi cenedl—yn aros ar ol i'r enw fyned yn ddim ond adgof bell.

Er fod genym faen-gofebau,
Er fod genym alarebau,
Yn ein plith mae'r hen wynebau—
Ni bu marw un.

Nac oes, nid oes arnynt feini,
Ond mae angel ifanc heini
Arnynt yn tragwyddol weini—
Ni bu marw un.