Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Safodd yn fynych yn ymyl y bedd, a gwelodd. oleuni pell anfarwoldeb yn disgleirio rhwng canghenau wylofus yr ywen: edrychodd i lawr—

Mae blodeu tragwyddol yn byw ar y bedd.

Ehediad aruchel darfelydd ydyw diweddglo y gerdd fechan—" Pa le mae fy nhad?" Y mae un o'r syniadau mwyaf treiddgar yn yr oll o'i farddoniaeth wedi ei gyfleu mewn llinellau mor dlws a hyny.

Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried ir nefoedd mae'r weddw a'i phlant,
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wâd
Fod byd anweledig os collodd ei dad.


Y mae y syniad yn ymddangos i mi yn hollol newydd. Gwelais rywbeth cyffelyb iddo yn un o benillion y bardd Ellmynaidd Goethe: lle y dywedir fod yr hwn na fwytaodd ei fara gyda dagrau, yr hwn na eisteddodd ar ei wely gan wylo trwy gydol y nos ofidus—fod hwn heb eto ddyfod i adnabod y galluoedd Anfarwol.[1] Gofid fel cyfrwng datguddiad—gofid yn lledsymud y llen oddiar ffenestri y tragwyddolfyd—dyna destyn y ddau. Y mae yr Ellmyn, fel arfer, yn fwy cyffredinol, yn fwy arddansoddol (abstract) yn ei syniadaeth. Ond gan y bardd Cymreig y mae y tynerwch, y mireinder; ganddo ef y mae yr hyfrydlais lleddf sydd yn siglo ei aden i fro bellaf yr enaid.

  1. Wer nei sein Brod mit Thranen ass,
    Wer nicht die Kummervollen Nachte
    Auf seinem Bette weinend sass,
    Der kennt euch nicht, ihr himmlischen Machte.