yn nghylch defnyddio "ychydig o Gynghanedd os daw yr ychydig hwnw yn rhwydd a didrafferth "—yn nghylch "perseinedd y llinellau," a'r angenrheidrwydd am gyflead dillyn o'r llafariaid a'r cydseiniaid yn nghylch peidio gwthio "gormod o ddrychfeddyliau" i'r llinellau sydd i'w canu—ac yn nghylch "cadw'r pethau goreu yn olaf "—fod yr holl awgrymiadau hyn mor bwrpasol ag ydynt gywir. Ac wrth fanylu ar ei gynyrchion, ceir gweled ei fod nid yn unig yn hyddysg yn neddfau y Gân, ond hefyd yn fedrus i droi ei ddysgeidiaeth i amcanion ymarferol. Yr esboniad goreu ar ei awgrymiadau yw ei ganeuon ei hun.
Pennod 3.
CYN myned yn mhellach, y mae yn angenrheidiol aros enyd i olrhain y dylanwadau llenyddol fuont yn creu yr awydd a'r dalent yn meirdd yr oes ddiweddaf i ganu Caneuon. Nid oes damwain yn myd llenyddiaeth, fwy nag yn nghylchoedd eraill Rhagluniaeth Ddwyfol. Y mae mantell un cyfnod llenyddol yn disgyn ar gyfnod arall, newydd; ac y mae yn naturiol i orchest gyntaf y cyfnod newydd fod o'r un ansawdd a gorchest olaf yr hen gyfnod. Hollti yr Iorddonen oedd gwaith diweddaf mantell Elias; a gwaith cyntaf y fantell yn llaw Eliseus oedd hollti yr un afon. Arwrgerdd Dante oedd llais olaf crefydd y Canol-oesau, fel cân yr alarch wrth farw: arwrgerdd Milton oedd llais cyntaf duwinyddiaeth y cyfnod newydd.
Tua diwedd y ganrif ddiweddaf bu deffroad egniol yn mhlith llengarwyr Cymreig. Cyn y deffroad, yr oedd ein barddoniaeth foreuol yn