arall, yn dangos mwy o fympwy nag o farn. Pa le y saif Ceiriog, o'i gydmaru â Burns a Béranger, ni'm dawr. Nid oedd mor wreiddiol a Burns, act nid oedd mor danllyd a Béranger. Ond nid yw ei lyfnder a'i lendid yntau gan un o'r ddau. Dyfyrwch i Bérangor oedd goganu diweirdeb, a gwneud duw o serch halogedig. Nid yw Burns mor wynebgaled; ond, a dweyd y lleiaf, gwyddai yntau'r gofid o gysegru pechod. Ar y tir hwn, beth bynag, y mae Ceiriog yn "anrhydeddusach na'i frodyr." Nid yn fostfawr drahaus y dywedir hyn,. ond mewn diolchgarwch gwylaidd.
Pennod 4.
YN y flwyddyn 1564, ganwyd Shakspere yn swydd Warwick, ar lan yr Avon; yn swydd Warwick, ac ar lan yr Avon hefyd, yn mhen tua dwy ganrif ar ol hyny ganwyd bardd arall—Walter Savage Landor. Yn holl gylch llenyddiaeth Seisnig ni fu dau mor debyg o ran teithi eu meddwl, na dau mor fedrus i ddarllen cyfrinachau y natur ddynol. Wrth sylwi ar hyn, gofyna un beirniad llygadgraff —"Beth sydd yn awyr Warwick i gynyrchu y fath ddynion ?" Yn yr un teimlad y canodd Landor ei hun:
I drank of Avon too, a dangerous draught, That roused within the feverish thirst of song.
Dyddorol yw sylwi hefyd fod amryw o emynwyr goreu Cymru wedi eu magu yn yr un ardal yn Nyffryn Tywy—Dafydd Jones o Gaio, Morgan