codi uwchlaw'r cymylau i orphwys dan lasliw tragwyddol y nef. Ehediadau bychain, tyner, yw ehediadau awen y ddau; yn llawn o dlysni cartrefol, yn llawn o agosrwydd a hyfrydedd Anian. Gweddiodd Ceiriog am fod fel nant y mynydd, ac "fel yr awel efo'r grug": cafodd ei weddi ei hateb i'w awen.
Nant y mynydd groew, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O, na bawn i fel y nant!
Grug y mynydd yn eu blodeu,
Edrych arnynt hiraeth ddug,
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.
Adar mân y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn 'hedeg—
O na bawn fel 'deryn bach!
Dyna farddoniaeth Ceiriog: y mae ei feddyliau yn rhedeg mor loyw ac mor fywiog a'r nant fynyddig; y maent mor ddirodres ac mor anwyl i bawb a'r grug yn eu blodeu; ac y maent mor ddirwystr a'r aderyn yn awel y gwanwyn.
Heblaw agweddau naturiol ardal ei febyd, yr oedd iddi hefyd ei chofianau hanesyddol. Gan fod blaen Dyffryn Ceiriog yn rhedeg i diriogaeth Lloegr, bu yma lawer brwydr waedlyd yn ystod yr ymrafael hir rhwng y Saeson a'r Cymry. Tra y mae y rhan fwyaf o'r brwydrau hyny wedi myned yn annghof, y mae un frwydr yn aros eto ar gôf a chadw. Brwydr Maes Crogen oedd hono; lle yr enillodd Owen Gwynedd fuddugoliaeth benderfynol ar Harri II., yn 1165. Diau i'r hanes gael ei adrodd lawer gwaith i Ceiriog yn ei faboed, yn nghydag aml draddodiad cynhyrfus am gampau milwrol ei gyndeidiau. Y mae yspryd yr oesau