henill mewn ystyr yn eiddo iddo ei hun, y dechreuai ysgrifenu geiriau iddi.
Cerddi Cymru sydd yn byw
Trwy'r blynyddau yn ein clyw:
Sibrwd ein halawon gynt
Mae cwynfanau trwm y gwynt;
Dwyn yn ol lais mam a thad
Mae hen dônau pur ein gwlad:
****
Ac mae clust y Cymro'n gwneud
I'r gre'digaeth oll eu dweyd.
"Sibrwd ein halawon gynt" wnaeth yntau, nes dysgu gwlad i'w canu.
Byddai yn ormod disgwyl iddo lwyddo bob tro: ond nid yw'r eithriadau prin yn gwneud mwy na dangos cryfder ei lwyddiant. Pa fodd y gollyngodd linellau fel hyn o'i afael ar Godiad yr Haul, nis gallwn ddeall:—
Gwêl, gwêl! wyneb y wawr,
Gwenu mae y bore-gwyn mawr:
Ac wele'r Haul trwy gwmwl rhudd
Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!
I'w wydd adar a ddônt,
Dreigiau'r Nos o'i olwg a ffont.
Pwy dd'wed hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y môr yn gochfor gwaed,
A'r ddaear dry o dan ei draed.'[1]
- ↑ O gywreinrwydd, dyfynwn yma linellau o eiddo y prif-fardd Gaelig Ossian yn darlunio codiad haul:Tha tonnan a' briseadh 's a' falbh,
Gu domhail fo'n garbh eagal féin,,
Tad a' cluinntinn thu 'g eirigh le fuaim,
O thalla nan stuadh, a ghrian.Yn Gymreig fel hyn:—Y tonnau ymddrylliant ac ymgiliant,
Gan dyru yn eu dirfawr ofn,
Fel y'th glywant yn codi gyda sŵn
O ystafell y dòn, O! Huan.Paham y dywedai'r bardd fod yr haul "yn codi gyda sŵn?" pha gyfathrach feddyliol oedd rhyngddo a'r bardd Cymreig yn hyn?