Y mae peroriaeth y cerddor a chân y bardd yn esgyn gyda'u gilydd—fel ar aden esmwyth, fyth ieuanc yr ehedydd—yn esgyn yn ddewrgalon i fynu (ar y nodyn E), nes ymgolli mewn Dydd a Duw.
Yr un modd yn y frawddeg adnabyddus o "Ryfelgyrch Gwŷr Harlech
(a) Ar i'r dewr-ion ddod i DAR-OUn waith et-o'nun
(b) An ni-byniaeth sydd yn GAL-WAr ei dewr-afddyn.
(c) We-le fan-er Gwal ia'i FY-NU—RHYDD-ID AIFF AHI!
(d) Dyn-a'rfan lle plyg ei glin-iau—Ar-glwydd ca-dwhi!
O'r pedair engraipht uchod, y mae y dair flaenaf yn hapus yn mhob ystyr—y drydedd yn neillduol telly. Y mae y geiriau taro—galw—fynu ar y nodau esgynol (D: G), fel swn goruchafiaeth ynddynt eu hunain; a theimlir yn ddios fod rhyddid yn "myn'd â hi." Ond, fel y mae'r " calla'n colli weithiau:" nis gallai dim fod yn fwy anhapus na'r "plygu gliniau" yn y bedwaredd engraipht—ar yr un nodau herfeiddiol. Nid yw gwyleidd-dra addoli yn agos i'r fath frawddeg rwysgfawr.
O ran tynerwch perorol a barddonol, nis gwn am ddim i ragori ar ddiweddglo "Ymdaith y Mwnc:"—
Ac iaith ei gyn dad-au yniach ac ynfyw
Y mae y geiriau—"iach ac yn fyw"—yn cario effaith wefreiddiol ar yr F ddisgynol a'r D unsain.
Pe gofynid am gynrychiolaeth o awen Ceiriog mewn tair cân, dewisem "Yr Eneth Ddall," "Y March a'r Gwddw Brith," a "Morfa Rhuddlan." Yr ydym yn dewis y gyntaf am ei symlrwydd a'i