a hyny yn fwyaf penodol yn yr Oriau Eraill. Er engraipht, yn "Syr Rhys ap Tomos," ceir y bardd fel yn dial arno ei hun am fod yn rhy afreolus mewn un rhan o'r gerdd, trwy fod yn orgywrain mewn rhan arall. Y mae'r ail benill o "Gadlef Morganwg" yn cadw'r odl yn ddwysill drwyddo, lle mae'r gair terfynol yn fwy nag unsill. Dyma'r terfynebau:—caledu, lledu; baner, haner; dreigiau, creigiau.
Ni bydd Sais i'w goffa
Rhyngom a Chlawdd Offa—
meddai yn "Y Gadlef Gymreig."
Cyfodwyd blaidd, yw'r ddo!ef,
Mae'r corgwn ar ei ol ef,
A'r gwaedgwn ar ei ol ef—
meddai, yn yr hel-gân" Mae Bleiddiad yn y Llwyn," gan ddilyn tric bychan deheuig o eiddo'r beirdd Seisnig. Ond fel gyda'r gynghanedd, felly gyda'r odl ddwysill; defnyddir hi yn ddamweiniol ac o wirfodd, yn hytrach nag yn orfodol. Y mae yn ddyddorol i sylwi hefyd, mai yn ei dri llyfr diweddaraf y ceir hi amlaf: sef yr Oriau Ereill, Oriau'r Haf, a'r Oriau Olaf. Y mae gan hyny yn debygol mai yn ddiweddar yn ei oes y syrthiodd mewn cariad â hi; ac iddi ddyfod, fel pobpeth a gerir yn hwyr, yn ffurfiaeth (mannerism) ganddo. Sylwer ar rai o'r odlau chwareus a geir yn yr Oriau Olaf:—
Digrif, digrif, onide? dau fab brenin
Yn rhoi halen yn eu tê, ac yn bwyta—bwyta cenin?
Pysgodyn aur wyf fi, a buan cei fi
Ond taflu pluen arian ar làn yr afon Teifi.
Er taflu coch-y-bonddu,
A gwybed Aberhonddu.
Yn wir, prin y mae cân heb un neu ddau gynyg ar odl ddwysill: tra y ceir rhai caneuon—megys