Ceiriog yn croesawu "Brenin y Ffyrdd!" Ac nid cân wneud ydyw chwaith, ond barddoniaeth bardd. Ai nid "bardd yn ei awen" a ganodd linellau fel hyn?
Mae'n d'od, mae'n d'od, os pell yw'r mor,
Agos y dygwyd yr eigion gwyrdd:
Mae llongau'r môr yn dyfod at
Benau'r mynyddoedd trwy Deyrn y Ffyrdd.
Mae'r creigiau'n ffoi i'r pantle draw,
Bryniau a ŵyrant ar chwith a de:
A chwympa derw hyna'r byd,
Ar ei ddyfodiad mawreddus e'.
****
Chwi ddreigiau'r nos sy'n gorwedd dan
Odreu'r Eryri er's oesau fyrdd:
Fe draidd goleuni trwyddoch oll
Gyda "Phendragon " mawr Deyrn y Ffyrdd.
Mae'n dda genyf weled ei anadl gwyn,
Ar odreu'r mynydd a chopa'r bryn,
A chlywed ei chwiban yn galw'n ddi gryn—
Mynydd ar fynydd, a dyn at ddyn.
Gwn fod Brenin y Ffyrdd wedi pechu yn erbyn yr awen fwy nag unwaith, trwy anharddu golygfeydd gwyryfol ein gwlad; ac nid oes genyf fwy o gariad at Vandaliaeth haerllug, wancus, nag sydd genyf at gulni breuddwydiol. Barddoniaeth pob darganfyddiad newydd yw yr elfen ddynol—yr elfen gymdeithasol—sydd yn y peth newydd. Anhawdd gwella sylwadau y diweddar Esgob Fraser ar hyn dywed—"Nid oes genyf un dymuniad, fel Mr. Ruskin, i encilio i unigedd rhyw ddyffryn yn Westmoreland. Hoff genyf glywed ergyd trwm yr ager—forthwyl. Mae'n dda genyf fyw yn nghanol gwŷr a gwragedd ydynt yn ddibynol ar eu diwyd—rwydd am eu bara beunyddiol. Lle y caf foddlon—deb a theimlad caredig gan ddynion at eu gilydd, dyna fy nhipyn o awyr lâs; ac yr wyf am weled mwy a mwy ohono." Y mae "llafur ac ymdrech ddiddiwedd" dyn yn farddonol. Ryw ddiwrnod—