"Ddinystr Jerusalem" gan Eben Fardd yn annyoddefol o erchyll. Yr ydym yn colli pob cydymdeimlad, ac yn chwilio am ffordd i ddianc o'r "ffieidd-dra annghyfaneddol." Gwaith yr hanesydd yw manylu; gwaith y bardd yw awgrymu.
Yn hyn y mae Ceiriog yn rhagori mewn modd arbenig. Y mae ei awen wedi rhodio lawer gwaith trwy gysgodion galarus y bedd; ond y mae yr heulwen ar ei haden a blodeu gwynion gobaith yn ei llaw. Y mae wedi hedfan dros feusydd rhyfel, ac wedi gwrando ochenaid olaf y clwyfedig yn marw; ond goleu byd arall oedd yn ei llygad wrth adael y fan. Y mae wedi penlinio ar yr oer-lawr, lle yr oedd gofid yn methu siarad, ac hyd yn nod yno y mae ei thrymder wedi troi yn salm o hedd.
Sylwa Llyfrbryf yn darawiadol iawn ar yr elfen hon yn ei farddoniaeth, wrth son am ei gân i Faes Crogen.[1] Wrth ofyn "paham y dewisodd Ceiriog fesur mor wisgi a'r Fwyalchen' i ganu am y fath drychineb, a phaham y dug aderyn mor yswil a diniwed i'r gân o gwbl; mai aderyn mwy a hyfach —y gigfran waedlyd, fuasai cydymaith goreu maes y gyflafan?"—dywed mewn atebiad mai un o neillduolion awen y bardd oedd "lliniaru yr echryslawn a'r aruthr gyda'r tlws a'r tyner," fel y mae Natur ei hun yn llareiddio ochrau y graig arw â'r mwswg.
Cymerer yn engraipht ei gân ar "Longau Madog." Y mae y fath dywyllwch annhreiddiadwy yn amdoi'r traddodiad ag a wnai i ryw Edgar Allan Poe droi'r diweddglo yn anuyoddefol o frawychus. Ond mor ddifyr yw Ceiriog—fel pe na wnaethent ddim. ond croesi'r Fenai!
Wele'n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
'Rol blwydd o daith yn bloeddio "Tir!"
- ↑ Bywgraffiad Ceiriog, 13, 14.