Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdl Dynyster Jerusalem.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diau af finau o'r fan,
Mae'n well i minau allan;
A gado'r fan rwygedig,
Ddi drefn, i'r sawl ynddi drig.

Ah! wylaf, ac af o'i gwydd,
Hi nodaf yn annedwydd;
Dystryw a barn ddaeth arni,
Er gwae tost gorwygwyd hi.