Heb fodd ar y ddaear ddod
Hyd i neb i'w hadnabod.
Da yw nodded Ion addwyn,
Gyrai ei deg air i'w dwyn
Yn gynyrchion, gan erchi
O'i wir nawdd eu rhoi i ni
Pan y dir ryfeddir fod
Tiriondeb mewn Tri Undod;
Yr oll yn awr a allwn
Ei ganfod o hanfod Hwn,
Yw llywyddiaeth creadigaeth
A thystiolaeth Iesu teilwng;
Er i'n gilio oddiwrtho,
Ef wnai'n cofio ni'n y cyfwng.
Marwolaeth a ddaeth i ddyn,
O bechod a bu achwyn;
Y diwyro Dad arab
Yn rhodd anfonodd ei Fab,
Yn gyfrwng i'n rhoddi'n rhydd,
Ai i'r adwy'n Waredydd.
Yn ein byd o'i gryd i'w groes,
Ca'dd gur a dolur duloes;
Ei fywyd eglurbryd glân—yn deillio
A fu o hono ef ei hunan.
Y boethlyd frwydr Aer Bethl'em—enillai
Mae'n allwedd i'r anthem;
Sigliad y loes galed lém,—ydoedd sobr
Ar nawn croeshoelio Brenin Caersalem.
Bu farw am ein bai oferedd—drosom
O! draserch mor rhyfedd!
Awdur byd yn nyfnder bedd
O'i fwyn gariad fu'n gorwedd.
Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/10
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon