Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dacw lef ddetyd eu clo—a folltiwyd,
Y môr a'u hysgwyd o'i lif amrosgo.

Esau a Daniel a ymestynent,
Y diwrnod olaf draw neud welent,
Yr addewidion goreu a ddodent
I ran Ꭹ duwiol rai a wrandawent;
Yr egwyl a fawrygent;—rhag ameu
Am y pell foreu a'i dymp llefarent.

Iôr ei hun wed, "Yr hwn a
"Fy ewyllys arfolla,
"Ar y dydd mawr diweddaf,
"Gyda nerth ei godi wnaf."
Dywedai Iob mewn gobaith,
"Er fy nghau am oesau maith
"Yn llwch yn nghuddfan y llawr,
"Nid imi bydd yn dymawr
"I adeiliaw dialedd,
"Mi wn daw im' newid wedd.
"A mi 'n wán wyf o'm nych—yn glafaidd
"O dan haiarnaidd gadwynau hirnych,
"Ymrwyfo môr o ofid
"Etwa'n llesg rhwng tonau llid:


"Er i'm croen a'm cnawd ddihoeni—'m hesgyrn
"Yn gymysgedd pydrni,
"Caf adeg i'm cyfodi
"Gyda Ion, ni'm gedy i.

"Eto 'n fy nghnawd caf wel'd fy Nghreawdwr,
"Mwy yw y rhinwedd mae'n fyw fy Mhrynwr,
"Ffyddlawn Geidwad a Thad a Thŵr—o'i ras
"Efe yn addas a saif yn Noddwr."

Dyfal y traethai Dafydd—grediniol,
Y brig hynodol ber ganiedydd ;—
"Gwelaf drwy ffydd ddydd a ddaw,