Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y cyrff olynol dd'ont o'u corff—lánau,
Byddinoedd mawrion o geimion gymau,
Ac o'r bronydd a'r rhosydd yn rhesau,
Y rhai glafychent mewn rhew gilfachau,
Yr holl ieithoedd a'r llwythau ;—ymddeol
Llu byw o ganol y pell begynau.

Yn llesg mal gwraig yn esgor
Rhuo draw mae rhydau'r môr.

Yn gyflym bwrw eu meirw wna 'r moroedd,
Hwy ymesgorant o'u hymysgaroedd,
I fynu eu dirwyn y dyfnderoedd,
Daw eres luon o'u dyrus leoedd ;
Wedi cyflawni y floedd cynhyrfu
Wna grym eu gallu ddyfnion gromgelloedd,
Ehed darnau cymalau, a miloedd
Dirif o esgyrn 'r ol blin derfysgoedd,
Y rhai a falwyd yn y rhyfeloedd;
Yn ol daw eraill o anial diroedd,
Teg anadlant genhedloedd—er cread,
Y sigl a'r lleisiad gasgl yr holl oesoedd.

Yna daw'r meirwon o dir Amerig,
Allan o waelod y gell anelwig,
Dan y cysgodion ac îs y goedwig,
Llymion neuaddau a lle mynyddig,
O ddiffrwyth ddeau Affrig—a'r llwythau
O oerion barthau, lleiniau pellenig
Ymdyna meudwy unig,—yn rhyddion
Y daw'r alltudion fu'n drallodedig.

A dwg wâr épil landeg Ewropa,
Yr holl ynysoedd, gorllewin, Asia,
O! erfawr gyniweirfa,—diodid
Adlawn ryddid i olynwyr Adda.

Ei ddigêl rybydd a glyw Arabiaid,