Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ein daear bron a döant;
O Jesereel, maes yr oedd
Hagraf olwg rhyfeloedd,
Ei arswydol ddewr sawdwyr,
Rif y gwellt o'i arfog wyr.
Oedranus wael drueiniaid
Trwy allu Ior dd'ont o'r llaid,
Y cloffion, a'r gweinion gynt,
Yn heinif bawb o honynt.

Ebrwydded o bridd y daeth
Elwig deml y ddynoliaeth;
Y ddirym ran ddaearol
Llwydo wna, try 'n lludw 'n ol;
A dilwgr gyfyd eilwaith
Ar lef for yr olaf waith;
Noeth hedyn unwaith ydoedd,
Wrth greu 'n y dechreu nid oedd
Ond un corff, "da iawn" ei caid,
Yn anedd i un enaid;
Weithian efe aeth yn fawr,
At ei rym mae'n gnwd tramawr—
Gnwd torf yr egin tirfion
O ddir hâd y ddaear hon.

Ar d'rawiad llygad llu—yr addewid
O'r ddaear i fynu
Frysiant i ofwy'r Iesu,
Nawdd a gânt yn ei wedd gu.

Os cyfodir corff yr anwir,
Ni adewir un y duwiol;
Daw i fynu heb ei lygru,
Ar wedd Iesu yn urddasol:

Y beddau egyr i'w lu buddugol,
Y rhai a fyddant yn fyw a'i gwirfoddol
Gywir adwaenant yn rhan grediniol,