"Mewn gwlad heb fwynhad, na hedd,
"Na gwawr o un drugaredd.
"I'ch tragwyddol ysol le,
"Treiglwch i lawr trwy wagle."
Agos a phell a gais ffoi,
A chyd ymdrech diamdroi;
Metha 'r oll ymaith yr ânt,
Duw a'i gyr gyda gwarant!
Hwy ânt o'i flaen hwnt fel ûs
O'i dafl myned fel manus.
Gwlawia i'w tud faglau tân—a bwria
Aberoedd o frwmstan;
Ant a phob diafl i'w haflan—grombil,
Ar eu hencil a'u daint yn rhincian.
Lle chwith, tywyllwch eithaf!
I'r dorf hon 'n awr darfu haf;
Udant o ing ofnadwy,
Yno tost grochlefant hwy—
"Aeth cynhauaf o'n gafael,
"Dim haf ond gauaf i'w gael;
"I ni y daeth rhan y dig,
"Nid ydym mwy gadwedig;
"Er goddef cosb dragwyddol,
"Ofer i ni farw 'n ol,
"Na llwybro o wyll abred;
"Y llid a'n coll ydyw 'n cêd;
"Newidiem ein cwyn wedi
"Llamu 'n ol pe gallem ni.
"Maeddasom y ddewisawl—gyfraith lân,
"Asgre a tharian gref ysgrythyrawl:
"Mewn pechod gwrthod gwawl—a nefolaidd
"Fyw'ngoleu hafaidd efengyl hyfawl.