I ddal y palm ar balmant—coneddus,
A thôn folianus byth, byth ni flinant.
Tua y breswyl ynte brysiwn—ni,
Am dani ymdynwn;
Ethryb tarth yw'r bywyd hwn,
Ail cufudd yw'n hoedl cofiwn.
Neu ail i fér wenol fain
A bywiog longau buain;
Ryw droedio er doe 'r ydym,
Dan y gro y daw ein grym;
Ar y llwybr yr âi y llu
Yn farwol awn yforu;
I y dulawr cyn delom,
Yn barod, barod y bo'm
Erbyn awr y bo y nos,
O herwydd mae 'n ein haros;
Wedi y fan alwad fydd
Eon gwrddwn a gwawrddydd;
A phan ddêl y fedel fawr
Bywiol unom a'n Blaenawr,
Ag unol fodd i ganu
O hyder llawn gyda'r llu;
Hoenus" Amen Iesu mâd,
"Addfedodd dy ddyfodiad.
"Wyt oesawl Ben-tywysog—wyt hefyd
"Etifedd coronog;
"Daeth i ni o'th gri a'th grôg—yr hawl hwn,
"Ynot glynwn yn fintai galonog.
"Tŵr a gorwiw borth trugarog,
"Ein deheulaw Oen dihalog;
"Teg Lyw ydwyd a goludog
"Ein Gwaredwr gwyn a gwridog."
Tudalen:Awdl ar yr Adgyfodiad.djvu/34
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon