Prawfddarllenwyd y dudalen hon
a pheidio cymeryd pob syniad yn ei ystyr lythyrenol; cymerais yr amser presenol yn fenthyciol am y dyfodof mewn rhai manau, felly ystyrier rhediad y gwaith. Nid wyf yn tybio fod y gwaith yn berffaith, ond un peth a ellir grybwyll mai y mwyaf tueddol yn fynych i "ddyfeisio" mân wallau yw y crach awdwr distadlaf ei hun. Derbynied pob un o'm hewyllyswyr da fy nyolchgarwch didwyll. Cyflwynaf hyn o ffrwyth fy awen i'r byd, gan hyderu y bydd yn foddion i ddeffro rhyw gysgadur i ymbarotoi erbyn y daw y Barnwr ar gymylau y nef i farn y dydd mawr. Mae rhyw duedd mewn dynolryw at gael eu dyrchafu, ond ysgatfydd, y peth goreu ar ein lles yw bod dipyn o'r golwg, a phwy a ŵyr nad yw yn llesoli
Hydref 15, 1850.CREDADYN.