Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ei brif odlau fyddent flodau eu da gyrddau,
Wiwdeg urddas.

Ond er gofwy du safadwy dwys ofidiant,
Yn deimladwy am Oronwy y merwinant.

O'i wir abl nodded rai blynyddau,
Enrhyg á yrodd yn rhagorau,
O wresog oludog eiliadau
Bywiol, adref o'i wiw belydrau.

Ond er's dyddiau a ni'n dristeiddiol,
Mud yw'r hyddysg ŵr ymadroddol;
Ei eirioes hanes, mae 'n resynol,
Yma ni feddwn, y'm anfoddol.

A'i gwyll du sy'n gallu dal,
Y gwresog loew-lamp grisial?.

A'i tymest o wynt damwainadeiniawg,
Fu'n dwyn GRONWY OWAIN,
Tra'r ym ni heb si ei sain,
Mor wywedig yn Mhrydain?

O Fardd! am dano gwae fi
Fy nygiad i fynegi.

Am Oronwy Owain trwm yw'r newydd,
Sy gredadwy, goeliadwy drwy'r gwledydd;
Y gair du 'n benaf á gredwn beunydd,
Heddyw marwol ydyw'r mawr wyliedydd.