Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Awdlau Coffadwriaethol am Y Parch Goronwy Owain.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diwedd gan Ddihires a'i henw AREGWEDD FOEDDEG; ffieiddier ei chóf yn dragywydd.

3. ARTHUR, Rhyfelwr clodfawr yn erbyn y Saeson, efe ai torrai i lawr a'i gledd a elwid Caledfwlch, megis medelwr a'i grymman yn llorio 'r Gwenith ar y maes.

4 OWAIN GLYN DYFRDWY, y mwyaf o'n mawrion, ac ystyried amgylchiadau a chyfyngderau yr amser y bu ef; erchyll ei ymgyrch yn erbyn Gelynion gormesgar y Cymry.

Rhagoriaethau Ynys Prydain yw ffrwythlonder: ei dacar, a'i llawnder o bob cyfreidiau bywyd. iachusder ei hawyr, harddwch ei hwynebpryd. Ei dysgeidiaeth a'i chelfyddydau, a phob Gwybodau a weinyddant gyfreidiau a chysuron i'w thrigolion.

O chymerir pob peth i'r cyfrif, gorau a dedwyddaf o bob cwr o Ynys Prydain yw Gwlad Cymru. Digonedd ynddi at gynnaliaeth bywyd, hynod yw harddwch ei daearlawr. Clodfawr am ei bucheddoldeb, a hynny yn bennaf am nas ceir yn ein hen Iaith odidog y cyfryw anfoesoldeb a phethau drygionus ag a welir mewn Ieithoedd eraill, yn gwenwynaw meddyliau, ac yn llygru cynneddfau a siaradont y cyfryw ieithoedd; gwilied Beirdd Cymru yn ofalus rhag llithro i'r Gymraeg y cyfryw ffieidd-dra; Dyledswydd anhepcor arnynt yw hynn, yn enwedig ar y rhai nad ydynt yn ymfoddi, corph ac enaid, mewn cwrw. Dealled rhyw un, a chofied o ba uchelder y syrthiodd."