Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Baledi-Cwynfan y Morwr a Deio Bach.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gauaf oer i'm fu'r diweddaf,
Anwyd lawer ddygais i,
Peidiais cwyno rhag cwtogi
Gronyn ar dy lawnder di;
Nid oes rhaid i wraig y dafarn,
Nac i'th flys dy hun gael cam;
Os yw'n anawdd sbario dimai
Gad yn anghof gŵyn dy fam

Caled yw fy nhamaid bara,
Ie, caled iawn a phrin;
Tra mae 'mhlentyn mi obeithiaf
Gyd a'i fara o wenith gwyn;
Os wyt ti, fy mhlentyn anwyl,
Wrth dy fwrdd, heb nych na nam,
Os nad yw yn ormod gofyn
Cofia damaid gwael dy fam.

Os nad yw yn ormod hyfdra
Ar afradlon lencyn hael
I adgofio pwy a'i magodd,
A bod ganddo fam i'w chael;
'F allai y goddefi imi
Deio Bach heb dybied cam,
I ryw fenyw a adwaenost
Dd'weyd fod genyt tithau fam.

Os na elli ddyfod drosodd,
Os na elli'm helpu ddim,
Beiddiaf ofyn un peth i ti
F' allai rhoddi hwnw im':
Careg fedd nid wyf yn ddisgwyl,
Gormod yw gan hiraeth iach;
Dyro ddeigryn wrth fy nghofio,
Dim ond deigryn, Deio Bach.