Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Cyhydedd Fer.
Aed, wâr enaid; aed, wr union;
Aed ragorwalch diwair, gwirion,
I fro Iesu fry a'i weision;[1]
I'w gain gaerau a gwen goron.
Cyhydedd Hir.
Gwawdodyn Byr.
Uned ganiad eneidiau gwynion,
Llem araith wrol llu merthyron,
Ni ludd gweli, ni ladd gâlon[5]—ei grym,
Nac ing croywlym, nac angeu creulon.
Dau Wawdodyn Hir.
Gwedi caledi, cyni, cwynion.
Artaith, erchyllwaith ac archollion,
- ↑ Cyffelybrwydd i gân y pedwar anifail, DAT. iv. 8., a arferent yn yr eglwys filwraidd ar y ddaear ym mhob oes, ac a hyderus obeithient gael yno a chôr saint bendigedig i'w chanu yn y nef yn oes oesoedd
- ↑ Arferol ym mhob ia'th yw rhoi rhif crwn, cyfan, yn lle rhif anwahanrhedol, megis cant yn lle bagad, mil yn lle lliaws mawr, a'r cyffelyb, pan fynid arwyddocau llawer, ond na wys pa nifer.
- ↑ "Un o enwau Duw yn Hebraeg, yn ateb yn union i'r gair Groeg Pantokrátor yn Datguddiad iv. 8 (cymhared Esay vi. 3), a Hollalluog neu Hollddigonol a arwyddocâ. Cof yw gennyf mewn rhyw ymddiddan â Mr. Lewis Morris y mynnai ef mai Cymraeg oedd ELL SADAI, sef A ALL SYDD DDA; ac yn wir nis gwn pa sut well y gellid ei gyfieithu."
- ↑ "Nid wyf yn tybied y ceir mo'r gair 'musig' yn nemawr o'r geirlyfrau Cymraeg; eithr nid wyf yn amau nad oedd yn arferedig yn yr iaith er yn amser y Rhufeiniaid. Pa ddelw bynnag, fe ei harferodd Lewys Morgannwg, er ys gwell na deucan mlynedd, yn ei awdl wrth Leision, abad Glyn nedd,—Arithmetic, music, grymusion
- ↑ [Lluosog am golyn].