A'r Salmydd, cynydd[1] Duw cu,— cof ydyw,
Cyfodaist i fynu;
O fugail, heb ryfygu,
Aeth Dafydd yn llywydd llu.
Minau, Duw Nef, o mynni,—anerchaf
Hyn o archiad iti;
Bod yn fugail cail[2] Celi[3];
A doed im' dy eglwys Di.
Ni cheisiaf gan Naf o nefoedd—gyfoeth,
Na gofal breninoedd;
Ond arail[4] ŵyn ei diroedd,
Duw a'i gwnel, a digon oedd.
(A bendigaid fo'i enw, fo'i gwnaeth)
CALENDR Y CARWR.
CYWYDD SERCH, a gânt y Bardd yn Mhwllheli, ynghylch y flwyddyn 1743; ac a ddiwygiawdd ychydig arno 1753.
[Treuliodd y Bardd flwyddyn neu ddwy fel cynorthwywr yn Ysgol Ramadegol Pwllheli; ac yn y cyfamser syrthiodd tros ei ben i gariad âg un o rianod glandeg Eifionydd. Barna y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, gan gasglu oddiwrth y gân Ladin sydd ar dudalen 114, mai'r Philippæ ydoedd, perthynas agos i Mr. Richard Rathbone o Lanystumdwy].
GWIR yw i mi garu merch,
Trosais hyd holl ffyrdd traserch;
Gwelais, o'r cwr bwygilydd,
Cyni a gresyni sydd.
Nwyfus fu'r galon afiach
Ow! galon sâl, feddal, fach!
Wyd glwyfus, nid â gleifwaith,[5]
Gwnaeth meinwen â gwen y gwaith;
Ow'r dòn anhoywfron hyfriw!
Ow, rudda'i llun, hardd ei lliw!