Rhodder, a chlêr a'i haeddant,
Bwyd a gwin, be deuai gant,
I gyd ni gawn
Iechyd wych-iawn
Y ddau nwyfiawn ddyn iefanc,
O bott llawn, byd da, a llanc;
Gwr gwaraidd a gwraig eirian,
Par glwys pêr glân.
A fedro, rhoed drwy fodrwy
Deisen fain, dwsin neu fwy,
Merched mowrchwant,
I'w ced a'u cânt,
Dispiniant[1] hwy does peinioel[2],
Rhwy maint chwant rhamant a choel,
Cysur pob gwyrf yw cusan-
Yw'n cerdd a'n cân.
Y nos, wrth daflu'r hosan,[3]
Cais glol y llancesau glân,
O chwymp a'i chael,
Eurwymp urael,
Ar ryw feinael wyrf unig,
Gweno ddu-ael, gwn ni ddig,
Rhyned os syr ei hunan.
Yn wyrf hen wan.
Yn iach cân i'r rhianedd,
Dêl i'r rhai'n dal wŷr a hedd,
Mae bro mwy bri[4]
Eto iti,
Gyr weddi, gu arwyddiad,
I Dduw Tri, e ddaw it' rad,
Byd hawdd, a bywyd diddan.
A cherdd a chân.
Dod i'th wr blant, mwyniant mawr,
Dod wyrion i'th dad eurwawr,
A he o hil
Hapus hepil,
Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/58
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon