Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dod, Ion, im' ran ohoni,
Canaf ei chlod hoywglod hi:
Llwyddai yn well i eiddil
Borth tau na thafodau fil.

Dywaid, pa le caid Awen
Cyn gosod rhod daear hen,
A chael o'r môr ei ddorau,[1]
A thyle[2] dŵr o'th law dau,
A bod sail i'th adailad,[3]
Ein Creawdr, Ymerawdr mad?

I'r nef ar air Naf yr oedd,[4]
Credaf pand cywir ydoedd ?
Ser bore a ddwyr ynt
Yn llu i gyd ganu gynt;
Canu'n llon, hoywlon, eu hawdl,
Gawr floeddio gorfoleddawdl!
Ac ar ben gorphen y gwaith,
Yn wiwlan canu eilwaith;
Caid miloedd o nerthoedd nef
Acw'n eilio cân wiwlef;
Meibion nef yn cydlefain
A'u gilydd mewn cywydd cain:—

"Perffaith yw dy waith,[5] Duw Ion,
Dethol dy ffyrdd a doethion,
A mâd ac anchwiliadwy,
Dduw mawr! ac ni fu ddim mwy!"
Per lefair cywair eu cân,
Pob ergyr[6] fal pib organ,
Cân mil—ddwbl acen aml-ddull,
Llawn hoen, heb na phoen na ffull."[7]

Gwanai eu gwiwdeg hoenwawr,
Ewybr eu llef, wybr a llawr;
Fe'i clywai'r ser disperod,"[8]
Llemain[9] a wnae rhain i'w rhod.

  1. 1JOB Xxxviii. 8, 10.
  2. Mae hwn yn enw cyffredin ar drigfan yn y Deheubarth.
  3. JOB xxxviii. 7.
  4. JOB xxxviii. 4, 6.
  5. Salm xix. 1.
  6. Tarawiad.
  7. Brys.
  8. Ser crwydrol.
  9. Neidio,