Taergoeg oedd eu gwatworgerdd :
"Moeswch, ac nag oedwch, gerdd."
"Gwae ni o'r bryd dybryd hwn,"
Cwynent,[1] "Pa fodd y canwn,
Gerdd Ion mewn tir estronol,
A'n mâd anwylwlad yn ol?
Ni bu, dref sorth,[2] tan orthrech,
Fy nhrem am Gaersalem sech[2]
Os hawdd yr annghofiais hi,
Dêl ammorth yn dâl imi;
Anhwylied fy neheulaw,
Parlys ar bob drygfys draw,
A'm tafod fials gwamalsyth,
Ffered yn sych baeled byth."
Llyna ddiwael Israeliad!
Anwyl oedd i hwn ei wlad;
Daear Mon, dir[3] i minau
Yw, o chaf ffun i'w choffhau.
Mawr fy ngwynfan am dani;
Mal Seion yw Mon i mi;
O f'einioes ni chaf fwyniant
Heb Fon, er na thôn na thant;
Nid oes trysor a ddorwn,
Na byd da'n y bywyd hwn,
Na dail llwyn, na dillynion,
Na byw'n hwy, onibai hon.
Troi yma wnaf, tra myn Ner,
O'm hedfa, oni'm hadfer;
Duw nefol a'm deoles,
Duw'n rhwydd im', a llwydd, a lles;
Crist, D'wysog, Eneiniog nef,
Ced-rwydd,[4] a'm dyco adref.