Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENGLYN I JOHN DEAN.[1]

Y Llongwr melynaf yn y deyrnas yma, 1754.

MOLIANT am bob peth melyn,—am yr haul,
A merhelyg dyfrllyn;
Am Sion Den, a chwyr gwenyn,
Am mad aur, petai 'maw dyn.


MARWNAD

I'r elusengar a'r anhebgor wrda, Mr. JOHN OWEN, o'r
Plas yng Ngheidio, yn Lleyn, 1754.

[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 77.]

1. Unodl union.
GWAE Nefyn, gwae Leyn gul wedd!—Gwae Geidio,
Gwae i giwdawd[2] Gwynedd!
Gwae oer farw gwr o fawredd!
Llwyr wae ac y mae ym medd!

2. Proest Cyfnewidiog.
Achwyn mawr, och in' y modd!
Nid ael sech, ond wylo sydd;
Gwayw yw i bawb gau y bedd
Ar Sion Owen, berchen budd.

3. Proest Cadwynog.
Cadd ei wraig bêr drymder draw,
Am ei gwaraidd, lariaidd lyw;
A'i blant hefyd frwynfryd[3] fraw;
Odid un fath dad yn fyw.

4. Unodl Grwcca.
Mawr gwynaw y mae'r gweinion,
"Gwae oll y sut golli Sion."
Ni bu rwyddach neb o'i roddion,—diwg,
Diledwg i dlodion.


  1. John Dean, rhyw lyffant o Sais melyn.
  2. Llwyth
  3. Gofidus