Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A dygaist ddryll diwegi,
Heb air son, o'm beroes i
Difwynaist flodau f'einioes,
Bellach pand yw fyrach f'oes?
O Galan hwnt i'w gilydd,
Angau yn neshau y sydd;
Gwnelwyf â Nef dangnefedd
Yn f'oes, fel nad ofnwyf fedd;
A phoed hedd cyn fy medd mau,
Faith ddwthwn rh'of a thithau;
Dy gyfenw ni ddifenwaf,
Os ei gwrdd yn l'oes a gaf,
Ni thaeraf annoeth eiriau,
Gam gwl,[1] er fy mygwl[2] mau.
Bawaidd os hyn o'm bywyd,
Rhwy[3] fu'r bai rh'of fi a'r byd;
Addefer di yn ddifai,
Rhof fi a'r byd rhwy fu'r bai.
Duw gwyn a'm diwygio i,
A chymod heddwch imi
A ddel, cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yna daw gwyliau llawen
I mi, ac i bawb. Amen.


UNIG FERCH Y BARDD,

Yr hon oedd dra anwyl gantho, a fu farw yn Walton[4] yn Lancashire, Ebrill y 17, 1755, yn bum mis a blwydd o oed, ac yntau a gant y Farwnad hon iddi. [Gweler cyfeiriad at ei genedigaeth yn y LLYTHYRAU, 65; ac at ei marwolaeth yn tudal. 119.]


MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'rhyd f'wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!


  1. Bai
  2. Bygwth
  3. Hen ffurf i'r gair rhy
  4. Rhan o blwyf Walton oedd Lerpwl yn yr hen amser