Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barlwydion (Cymru 1896).djvu/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol X, Rhif 58, 15 Mai 1896, tudalen 261

Barlwydon.

Barlwydon

GANWYD Barlwydon mewn bwthyn bychan dinod, ond tlws, o'r enw Ty Nant, Llidiardau, ger y Bala, Awst 3, 1853. Ei rieni oedd John a Grace Davies, y naill yn enedigol o Langynog, Trefaldwyn, a'r llall yn hannu o hen deulu parchus Pantgwyn, ger Llanuwchllyn. Yr oedd y rhieni yn adnabyddus trwy eu rhan hwy o'r wlad ar gyfrif eu crefyddolder a'u caredigrwydd.

Bu farw ei fam pan nad oedd Barlwydon ond pum mlwydd oed, yr hyn fu yn achlysur o symudiad y teulu i fyw o'r Llidiardau i Ffestiniog, gan fod y tad yn gweithio yno ar y pryd. Fel gyda phlant yn gyffredin y blynyddoedd a basiodd, bu raid i Barlwydon ymaflyd mewn rhyw orchwyl cyn bod o hono yn llawn wyth oed. Er ei fod yn sychedu am addysg, ni lwyddodd i gael hynny hyd nes iddo basio ei ugain oed, a thrwy ei ddarbodaeth ei hunan y llwyddodd i'w gael-er na bu cwrs ei addysgiaeth ond pum mis o amser. Er hyn oll, yn ystod yr adeg yna gwnaeth gynnydd anarferol, a phasiodd amryw o arholiadau pwysig, ag y bu ereill am flynyddoedd yn paratoi ar eu cyfer.

Bu y blynyddoedd y bu yn aros ym Manchester yn fantais dirfawr iddo gymhwyso ei hun ar gyfer y cylchoedd pwysig y mae wedi eu llenwi er hynny. Bu yn llanw y swydd o gyfrifydd yn chwarel y Llechwedd am flynyddoedd. Yn y swydd bwysig y mae ynddi yn awr, mewn cysylltiad a'r plwyf, y mae wedi ei llanw gyda deheurwydd oherwydd ei fedr a'i garedigrwydd, ac ni phetrusaf ddweyd ei fod yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus a chymeradwy, os nad un o'r rhai mwyaf galluog a gwasanaethgar, a fedd Ffestiniog. Oni bai ei fod mor dra gwylaidd a thuedd ynddo i ymwthio a bod bob amser o'r golwg, buasai yn llawer mwy enwog yng nghyfrif rhyw ddosbarth, ond y mae hyn o'r ochr arall yn peri fod mwy o alw am ei wasanaeth fel beirniad, llywydd, ac ar- weinydd cyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodol, ac ni chlywsom ond ychydig o'i debyg yn y cyfeiriad hwn.

Fel bardd, rhaid ei restru ymhlith beirdd tlws, melus, ac eneiniedig, ac un o'r rhai mwyaf diymhongar o'r urdd. Er ei fod wedi ennill llu o wobrwyon, yn gadeiriau, tlysau, ac arian,—eto y mae cystadlu ymhell o fod yn ei elfen, oni bai iddo hoffi y testyn fel nas gall beidio. Y mae y gyfrol gyntaf o'i waith, sydd ger fy mron,[1] yn un ddestlus, ac yn ffrwyth awen bardd o radd uchel, ac yr ydym yn cael yr un pleser wrth ei darllen ac a gawn wrth ddarllen gwaith Islwyn, Ceiriog, Elfed, Mynyddog, Watcyn Wyn, Eifion Wyn, a'u tebyg. Yn ol fy adnabyddiaeth o hono, credaf iddo gyfansoddi y rhan fwyaf o'i farddoniaeth cyn bod yn bump ar hugain oed.

HEN GYDNABOD.

  1. CANIADAU BARLWYDON. Rhan I. Davies ac Evans, y Bala. 1s.