Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yma gorwedd un mwy 'i urddas
Na bon'ddigion beilchion byd,
Cydetifedd Crist mewn teyrnas
Nefol, gaed trwy aberth drud:
Yma'n gorwedd heb un garreg
Ar ei feddrod yn y llan;
Gellir hyn a dim ychwaneg
Er cof a pharch i'w farwol fan.

Ei enw'n unig fydd yn ddigon,
Ofer cerfio 'i barch a'i glod,
Cerfiwyd hynny ar bob calon
A'i hadwaenai is y rhod:
Nid eill carreg byth m 'r cynnwys
Ei rinweddau tra 'n y byd,
Na cherfier ond ei enw gwiwlwys,
Hwn a'i cynnwys oll i gyd.

Gwn fod llawer yn chwenychu
Gweld ei fedd-faen, o'r rhai fu
Cyd ag ef yn cyd-ddyrchafu
Baner waedlyd Calfari;
Fel y gallai gyd â'i ddagrau
Wlychu a golchi godre hon,
Er parch mwyn i'w deg rinweddau,
Ac ysgafnu'i lwythawg fron.

Ac fe allai aml lencyn
Gadd ei gyngor tadol ef,
I ado'r ffordd oedd yn ei dilyn,
Ac i ddilyn llwybrau nef;
Ga'i ddiddanwch mawr wrth wylo,
Ac wrth roddi arni 'i bwys;
Wrth ei gweled wnae adgofio
Ei gynghorion tirion dwys.