Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel gwenith teg, llawndwf, dan awel cynhaea.
Byrddiad ar fyrddiad yn dirif ymwasgu,
Dynion drwy'u gilydd yn gwau heb ddyrysu;
Un rhan newydd dderbyn y nefol arwyddion,
A rhan yn ymwthio i'w derbyn yn dirion;
Dwylaw ar led at ddwylaw'r gweinidog,
Un meddwl mawr, eang, drwy'r dyrfa amrywiog;
Llygaid y dorf ar Elias sefydla,
A'u ffydd yn addoli ar lethrau Calfaria.
Fe borthodd y dorf,—mae rhai ar eu gliniau,
Ac ereill yn canu nefolaidd bêr eiriau,
Yn wylo, yn canu, hyd ddengwaith yn dyblu;
A'u llaw ar eu cern, a'u llygaid i fyny;
Hen bennill melusbêr[1] a ddenodd eu hysbryd
Mewn moment i rywle i ardal y gwynfyd,—

"Gwych sain
Sydd eto am y goron ddrain,
Yr hoelion dur a'r bicell fain,
Wrth gofio rhain caff uffern glwy;
Cadwynau tynion aeth yn rhydd.
Fe gaed y dydd, Hosanna mwy."


DINISTR CARTREF.

"Cartref!" O enw fu'n swynol flynyddau,
"Cartref," lle tyfai sirioldeb a hedd;
Cartref, ysbeiliwyd mewn munud o'i dlysni,
Mae'n oer fel y graig, mae'n ddu fel y bedd.
"Y nefoedd," fy nghyfaill, O ardal fendigaid,
Lle dwedi mae bywyd, a gwynfyd, a hoen;


  1. Pennill o waith y Parch. John Roberts, Llangwm (1753— 1834).