Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Maes cysegredig yw,
Rhyw hynod Fethel;
Lle bu angylion Duw
Yn cyrchu'n ddirgel;
Bu'n borth y nefoedd trwy
Eu rhad wasanaeth hwy,
Yn gweini balm i glwy'
Pechadur isel.

Y ddeufyd ar y Green
Ddoent i gyffyrddiad,
Nes teimlid fod y ffin
Uwchlaw olrheiniad;
Tebygid lawer pryd
Fod yr ysbrydol fyd
Yn hawlio'r maes i gyd
Trwy oresgyniad.

Fel addfed faes o haidd,
Ymdonnai'r dyrfa;
Mewn duwiol nefol aidd
Ar Green y Bala;
Fel trwy addolgar reddf,
Pa chwythai corwynt deddf,
Neu'r awel dyner leddf,
O ben Calfaria.

Wrth gofio'r amser gynt
Ar Green y Bala;
Yr angel ar ei hynt,
Fan hyn orffwysa;
Nes llwyr anghofio'i daith,
Mewn gwledd fyfyriol faith,
Wrth feddwl am y gwaith
Gyflawnwyd yma.