Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IOAN TEGID

[Ganwyd John Jones (Ioan Tegid) yn nhref y Bala, Chwefror 10, 1792. Yr oedd yn ddisgybl i Robert William y Pandy. Bu yn ysgol y Parch. D. Peter, Caerfyrddin, cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen, yn 1814. Yn 1819 daeth yn gaplan Eglwys Crist, ac wedyn yn gurad Eglwys St. Thomas. Tra yn Rhydychen gwnaeth lawer o waith dros eglwys a mynwent ac ysgol. Rhwystrwyd ef rhag mynd yn genhadwr i India gan hiraeth am Gymru. Gweithiai dros Gymru hefyd. Golygodd argraffiad newydd o'r Testament Newydd, a buasai wedi golygu'r Beibl i gyd oni bai i'w orgraff,—oherwydd ni ddyblai ei lythrennau,—gedi storm. Cyfieithodd lyfr Esay o'r Hebraeg i'r Saesneg, a bwriadai ei gyhoeddi yn Gymraeg hefyd. Cydolygodd waith Lewis Glyn Cothi â Gwallter Mechain, ac ysgrifennodd ragymadrodd hanesyddol llafurus i'r gwaith. Hiraethai am Gymru o hyd. O'r diwedd, yn 1841, cafodd le, nid ym Meirion fel y dymunai, ond yn Nanhyfer, lle bach tlws megis yn ymnythu uwchben afon Hyfer, yn sir Benfro. Carai ei wlad a'i iaith â holl serch ei galon gynnes. Yr oedd yn wr hoffus, diddan, caredig a chroesawgar. Bu farw Mai 2, 1852; ac y mae ei fedd yn Nanhyfer.]

YMWELIAD Y BARDD.

I dref y Bala yr aeth y Bardd,
I edrych am ei dad;
Aeth dros y tŷ, a thrwy yr ardd,
Gan waeddi "O fy nhad!
Nid yw fy nhad yn unrhyw fan,
Os nad yw yn y bedd;"
Atebai careg iddo'n wan,
Dywedai, "Yn y bedd!"

"Pa le mae Gwen, fy anwyl Gwen,
Fy chwaer pa le'r wyt ti?
Os wyt yn fyw, anwylaf Gwen,
O dywed, Wele fi'