Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O trymaidd a fydd tramwy
I'r Pandy, o'ch fi! i mi mwy
Ni chaf hwn, och! fi hynny,
O waew dwys! o fewn ei dŷ;
Diamau ei fynd ymaith
I dŷ'r bedd, diwedd ei daith,
O'i fyned i'r nef hefyd
Ac e' yn fardd, gwyn ei fyd.


ARDEB FY MAM.

Ardeb fy mam, fwynfam fach,
Gwiw lun! ni bu ei glanach;
Mam Elen, mam Gwen—ei gwedd!
Rhifir hwn yn llun rhyfedd;
Mam fad offeiriad y Ffydd,
A'r difyr banker Dafydd.


MERCH IEUANC YN Y DARFODEDIGAETH.

Pan welais hi ar ben yr allt,
Yn rhodio drwy y coed,
Coch oedd ei gwrid dan fodrwy gwallt,
Ac ysgafn oedd ei throed;
Oedd hardd o gorff, oedd deg o bryd,
Yn Efa 'n ngolwg bardd;
Oedd degwch bro, oedd degwch bryd,
Mor hynod oedd o hardd.

O graig i graig, o lwyn i lwyn,
Y rhodiai dros y bryn,
Gan daflu llawer golwg mwyn
Yn llon tuag at y Llyn;
A'r Llyn oedd ddisglair is ei throed
A thawel fel mewn hun,
Lle gwelai ddelw'n nghanol coed
A'r ddelw oedd ei llun.