Tudalen:Beryl.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Beryl, wrth syllu arno'n freuddwydiol, ac anghofio ei llyfr ysgol, a oedd yn agored ar ei harffed. Gan fod Arholiad Uchaf yr Ysgol Sir yn agos, cawsai hi ganiatâd i aros gartref i astudio. Aethai Mr. a Mrs. Arthur, Eric a Nest, a Let y forwyn, i'r cyfarfod gweddi. Yr oedd yr efeilliaid,—Geraint ac Enid,— yn y gwely. Dim ond tair blwydd oed oeddynt hwy. Caent fynd i'r gwely bob nos am chwech o'r gloch.

Er iddi gael cyfle mor braf i astudio, cyffesai Beryl wrthi ei hun gyda chywilydd ei bod wedi gwastraffu rhan fawr o'r amser i syllu i'r tân a breuddwydio. Nid yn aml yr oedd Beryl yn ddiog, ond yr oedd bob amser yn rhy hoff o freuddwydio.

Gwenai wrth feddwl am ei breuddwyd. Flynyddoedd yn ôl, pan nad oedd Beryl ond deg oed,—yr oedd yn awr yn un ar bymtheg,— bu gŵr a gwraig o ardal y Wern farw yr un wythnos, a gadael tri o blant bychain ar eu hôl. Buwyd yn methu â deall pa beth i wneud â'r tri phlentyn. Nid oedd yr hynaf ond chwech oed, ac nid oedd ganddynt berthnasau agos. Wedi llawer o feddwl a threfnu gan gymdogion a chyfeillion, cymer- wyd y tri bach gan dri o deuluoedd i'w magu. Bu'n rhaid eu gwahanu felly. Digwyddai