Tudalen:Beryl.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Hywel yn dewis credu ei fod ef yn lleidr, creded hynny.

"Nid oes gennyf ddim ychwaneg i'w ddweud, syr," ebe Eric. "Bydd yn well gennyf beidio â dyfod i'r siop yma eto."

Cydiodd yn ei gap a mynd allan cyn i Mr. Hywel gael amser i'w ateb.

Felly y daeth cwmwl du, du, i hofran uwchben aelwyd fach, glyd, Maesycoed.