Tudalen:Beryl.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth ei gwersi yn yr ysgol, llithrai ei meddwl i'r Gelli, ac fe'i câi ei hun yn golchi'r llestri neu yn glanhau'r pentanau. Ni wnaethai Beryl erioed lawer o waith felly. Yr oedd morwyn fawr ym Modowen at waith y tŷ.

Aethai chwe blynedd heibio oddi ar hynny. Yn ystod y gwanwyn hwn, ac Arholiad yr Ysgol Sir wrth y drws, daethai'r breuddwyd yn ôl drachefn mor ffres ag erioed. Beth pe deuai ei thad a'i mam i wybod! Dywedent hwy wrthi'n aml ei bod yn rhy hoff o adael i'w meddwl grwydro. Tybient, yn ddiau, mai meddwl am fywyd yn y coleg neu am rywbeth mwy disglair fyth a wnâi. A hithau mewn dychymyg yn gweithio'n galed mewn tŷ bach, ac yn ymboeni gyda thri o blant ! Beth pe deuai Eric a Nest i wybod! Dyna ddifyrrwch a gaent!

Clywodd sŵn agor a chau yr iet fach. Cododd ei llyfr yn frysiog. Ymddangosai yn ddiwyd iawn pan ruthrodd Eric a Nest i mewn fel ebolion. Penliniasant, un bob ochr iddi, ar y mat. Cydiodd Eric yn ei llyfr. Darllenodd baragraff ohono â llais uchel, drwy ei drwyn, yn union fel y gwnâi un o athrawon yr ysgol. Protestiai Beryl a chwarddai Nest yn ddilywodraeth. Aeth y lle oedd gynnau mor dawel yn llawn terfysg.