Tudalen:Beryl.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y plant eraill yn siarad, na chael eu deall gan neb. I blant yr ysgol honno, creaduriaid bach rhyfedd iawn oedd y "Welsh Twins." Ond dechreuodd y ddau ymaflyd mewn addysg." Yr oedd ysgolion da yn y dref honno, a theimlai Eric a Beryl y byddai Geraint ac Enid o leiaf ar eu hennill o fod wedi dyfod yno i fyw.

Yr oedd Eric hefyd ar ei ennill. Os oedd gallu mewn un, yr oedd lle iddo ddyfod i'r amlwg yn Siop Fuller. Dechreuwyd gweld gwerth Eric. Cafodd yn fuan iawn fwy o gyfrifoldeb a mwy o gyflog. Yr oedd ysgolion nos yng Nghaergrawnt, a lle i ddysgu llawer o bethau heb dalu ond ychydig am hynny. Gwnaeth Eric yn fawr o'r cyfle. Yr oedd yn fwy penderfynol nag erioed i ddyfod ymlaen.

A beth am Beryl? Yr oedd ei waith yn galw Eric allan i ymgymysgu â phobl, a'r ysgol yn rhoi cwmni plant o'u hoed i Geraint ac Enid. Yn y tŷ yr oedd gwaith Beryl, a hwnnw'n dŷ cyfyng ar lofft uchaf adeilad. Nid oedd yn bosibl iddi fynd allan ohono heb adael ei gwaith a gwisgo'n drwsiadus. Ai allan fynychaf yn y bore i brynu bwyd, ond nid oedd neb yn y dyrfa brysur ar y stryd a wyddai nac a hidiai ddim amdani hi a'i