Tudalen:Beryl.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am y byd mawr. Yr wyf erbyn hyn yn gallu diolch i'r sawl a ddywedodd gelwydd amdanaf. Ac edrych ar y byd da sydd ar Nest, a'r pethau mawr sydd yn ei haros!"

"Y mae Nest wedi mynd mor bell oddi wrthym," ebe Beryl.

"Ydyw yn awr am dipyn. Ond yr un yw Nest o hyd. Un ohonom ni ydyw. Deuwn yn nes at ein gilydd eto."

"Dyna unig y byddaf wedi i tithau fynd."

"Rhaid iti fynd allan fwy o hyn ymlaen, a rhaid iti gael stoc o ddillad newydd yfory nesaf. Nid wyt wedi cael dim newydd ers amser hir. Mae'r rhod wedi troi! Yr wyf yn mynd i godi deg punt o'r banc bore yfory, a rhaid iti eu gwario i gyd arnat dy hunan."

"Paid â siarad dwli, Eric."

"Gwna hynny'r tro i ddechrau.

"Yr wyf yn siwr bod lwc o'n blaen i gyd. Mae'r rhod wedi troi, Beryl, mae'r rhod wedi troi!"