Tudalen:Beryl.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nag annwyd ar neb ohonynt er pan gollasent eu rhieni. Gwelodd Beryl yn fuan nad annwyd cyffredin oedd ar Enid y tro hwn. Rhoes hi yn y gwely, gyda photel o ddŵr poeth wrth ei thraed. Aeth Geraint i'r ysgol wrtho'i hun.

Nid oedd ddim gwell pan ddaeth Geraint adref ychydig wedi pedwar o'r gloch. Yr oedd yn rhaid cael doctor. Nid adwaenai Beryl neb o ddoctoriaid Caergrawnt, ond gwyddai ym mha le'r oedd rhai ohonynt yn byw. Gwelsai eu tai mawr a'r plât pres ar y mur yn un o ystrydoedd y dref. Yr oedd enwau Cymraeg ar rai o'r platiau hyn. Sylwasai ar "Jones a Parry." Nid oedd am alw ar un o'r ddau hynny i mewn. Nid oedd am gyfarfod â Chymry yng Nghaergrawnt. Pe deuai Cymro i'r tŷ, byddai'n sicr o ddeall mai Cymry oeddynt hwy, a dyna lle byddai holi. O ba le y daethent? Pwy oeddynt ? Pam y daethent i Gaergrawnt? A byddai'n rhaid eu hateb. Byddai'n bosibl i Gymro, pwy bynnag a fyddai, fod yn adnabod rhywun yn Llanilin, a dyna ddiwedd ar eu cyfrinach. Diau y credai'r doctor gyda'r lleill fod Eric wedi dwyn arian, ac mai gadael Cymru mewn gwarth a wnaethent.