Tudalen:Beryl.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edrychodd y doctor ieuanc yn graff iawn ar Beryl. Carasai holi llawer o gwestiynau, ond nid holi yw gwaith doctor, felly dywedodd:

"Bydd eisiau llawer o ofal a medr i edrych. ar ôl y ferch fach yma. A gaf fi anfon nyrs brofiadol yma ?

"Gwell gennyf fi ofalu amdani, os gwelwch yn dda, doctor. Mi wnaf bopeth a ddywedwch wrthyf"

"A oes gennych rywun i'ch helpu Mrs.————"

'Miss Arthur," ebe Beryl, a gwrido.

"Dim ond fi a'm brawd a'm chwaer fach sydd yma'n awr. Mae fy mrawd hynaf newydd fynd i ffwrdd. Nid oes gennyf waith arall ond gofalu amdanom ein tri. Mi ofalaf am Enid."

"Credaf y gwnewch, yn well na'r un nyrs," ebe'r doctor, ac edrych arni'n graff fel o'r blaen. "Gwnawn ein gorau, ynteu,—chwi a minnau."

Dyddiau â'u llond o bryder a fu'r tri dydd dilynol. Deuai'r doctor lawer gwaith yn y dydd. Plygai Beryl ac yntau gyda'i gilydd uwchben gwely Enid. Crwydrai meddwl yr un fach. Siaradai'n ddibaid, a Chymraeg a siaradai bob amser. Os sylwodd y doctor mai