Tudalen:Beryl.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mai Cymry oedd Beryl a'i theulu, ac ni chyfeiriodd Beryl at ei enw Cymraeg yntau,— dim ond ei alw'n "Dr. Wyn" yn lle "Dr. Smith."

Un bore cafodd Beryl lythyr oddi wrth Nest o'r Eidal â newydd cyffrous ynddo. Cawsai Mrs. Mackenzie lythyr o Lanilin yn dywedyd am beth rhyfedd a ddigwyddasai yno. Yr oedd Stanley, o Siop Hywel, wedi bod yn wael iawn yn ystod y gaeaf, ac nid oedd ganddo obaith am wella. Ambell waith yn ystod ei gystudd galwai ddydd a nos am Eric. Un hwyr cyffesodd wrth ei weinidog ei fod wedi gwneud cam ag Eric flynyddoedd yn ôl, a bod yn achos i hwnnw ymadael â Siop Hywel ac â'r ardal. Dywedodd mai ef a ddygasai'r ddau bapur punt o'r til a'u rhoi yng nghap Eric. Cawsai gyfle at hynny wedi dyfod yn ôl oddi wrth ei waith a phawb yn brysur yn y siop. Dywedodd hefyd mai ef a ddygasai bob swllt a aethai ar goll o'r til drwy'r amser hwnnw. Ei amcan oedd cael gwared ar Eric, am ei fod yn mynd o'i flaen ef yng ngolwg Mr. Hywel. Llwyddasai yn ei amcan, ond yr oedd y peth wedi pwyso'n drwm ar ei feddwl, ac ni bu'n hapus byth ar ôl hynny. Yr oedd am i Eric gael gwybod fel y câi ef ei faddeuant cyn marw.