Tudalen:Beryl.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Saith gant o bunnoedd oedd gennym. Y maent yn talu chwech y cant, felly mae ein stoc fach yn agos i fil o bunnoedd heddiw." "Yr ydych yn sicr fod y cwmni'n berffaith ddiogel?"

"O, nid oes amheuaeth am hynny," ebe Mr. Arthur. Buom yn chwilio a holi digon cyn rhoi ein holl eiddo ynddo. Y mae ugeiniau o bregethwyr wedi gwneud fel ninnau. Y mae popeth yn cael ei gario ymlaen yn rheolaidd iawn. O, ydyw, y mae'n hollol ddiogel."

"O'r annwyl! Gobeithio ei fod, neu beth ddaw o addysg y plant?" ebe Mrs. Arthur. "O, ydyw, Elen fach, y mae'n hollol ddiogel," ebe Mr. Arthur, dipyn yn ddiamynedd, ac ychwanegodd, gan droi at Mr. Goronwy, "Yr wyf yn benderfynol o roi addysg dda i'r plant i gyd."

"Da iawn. Dyna'r ffortun orau y gallech byth eu rhoi iddynt,—cymeriad i ddechrau, ac yna addysg. Gellwch wedyn fentro'u gadael i weithio'u ffordd trwy'r byd."

"Pan ddaw'r ddau fach,—Geraint ac Enid, —yn barod at ysgol a choleg, bydd Beryl ac Eric yn ennill, ac yn ddigon parod i helpu tuag at eu haddysg hwy," ebe Mrs. Arthur.