Tudalen:Beryl.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a chysgod ei rieni. Dyna pam y mae eich mam a minnau yn rhoi addysg i chwi. Bydd yn rhaid i chwi ddewis eich llwybr wedyn a'’i gerdded eich hunain, er y byddwn ni yma, OS cawn fyw, yn meddwl amdanoch, yn gweddïo drosoch, ac yn disgwyl eich gweld yn dod yn ôl."

Ie, blant bach, gobeithio y cawn ni ein dau fyw i'ch gweld wedi tyfu'n blant da ac yn dod ymlaen gyda'ch gwaith," ebe Mrs. Arthur.

Wedi tipyn o siarad pellach cyn codi oddi wrth y ford, aeth y tri phlentyn i'w gwelyau'n ddistawach nag arfer. Yna dywedodd Mrs. Arthur wrth ei phriod :

"Yr amser hapusaf i dad a mam", ebe Owen, yw yr amser pan yw'r plant yn fach, cyn i gysgod yr ymadael ddod rhyngom."

"Nid wyf yn siwr o hynny," Mr. Arthur. "Onid yr amser hapusaf i ni a fydd hwnnw pan welwn hwy'n llwyddiannus mewn bywyd,—yn dwyn ffrwyth ar ôl ein gofal a'n llafur ni trostynt?"

"Efallai mai chwi sydd yn iawn," ebe Mrs. Arthur.