Tudalen:Beryl.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd sŵn prysurdeb mawr yn yr ystafell, —sŵn ysgrifennu dyfal, pinnau ysgrifennu'n taro'n erbyn y llestri inc, prennau mesur yn disgyn ar y desgiau, ambell besychiad gwan ac ambell ochenaid. Daeth athrawes ieuanc i mewn trwy'r drws, aeth yn ddistaw at yr athro a eisteddai wrth ei ddesg a sibrwd rhywbeth wrtho. Yna edrychodd y ddau i gyfeiriad Beryl. Plygodd Beryl at ei gwaith drachefn. Cyn hir, daeth yr athro ati, edrychodd dros ei hysgwydd ar ei gwaith. Yna sibrydodd, a gwên dyner iawn ar ei wyneb,—

"Bron â gorffen?"

Dangosodd Beryl iddo ei bod wrth y cwestiwn olaf.

"Dewch â'ch papurau i mi wedi ichwi orffen," ebr ef. Edrychodd ar ei oriawr, ac aeth yn ôl at ei ddesg.

Yr oedd Beryl yn un o ysgolheigion gorau'r ysgol. Nid rhyfedd bod yr athro'n cymryd diddordeb yn ei gwaith. Yr oedd wedi blino hefyd, ac ôl hynny, efallai, ar ei gwedd. Diau bod yr athro caredig am roi cyfle iddi fynd adref yn gynnar.

Dyna'r gair olaf o'r diwedd. Edrychodd Beryl yn ofalus dros waith y prynhawn i gyd. Rhoes ei phapurau mewn trefn.