harddach nag erioed yn ei dillad duon a'i gwallt fel gwawl ar ei phen. Dim ond ar brydiau yr oedd Eric yn brudd. Rhoesai Let a Beryl ofal yr ardd iddo. Pan fyddai eisiau tatws neu bys neu ffa neu rywbeth arall, at Eric yr aent i ofyn amdanynt. Ei waith ef hefyd oedd ysgubo'r llwybrau a chadw'r lle'n drefnus. Yr oedd Geraint ac Enid mor hapus ag erioed. Ni wyddent hwy eto ddim am ofid byd. Ar Beryl y daeth y pwys. Rhedai pethau rhyfedd trwy ei meddwl. Ai'r un oedd hi a'r ferch honno a oedd mor hapus ddydd yr arholiad a phopeth yn olau o'i blaen? Tywyll iawn oedd pethau erbyn hyn. Nid oedd drefn ar ddim yn y dyfodol.
Un bore, yr oedd Let yn paratoi at wneud bara. Aeth Beryl ati i'r gegin fach.
Let," ebe hi, gedwch i fi wlychu'r toes heddiw, a dysgwch chwi fi, os gwelwch yn dda."
"O'r gorau, Beryl fach," ebe Let yn syn. "Cewch ei grasu hefyd, os mynnwch."
Felly y cafodd Beryl ei gwers gyntaf mewn gwneud bara. Dro arall, mynnai olchi'r llawr, glanhau'r lle tân, tannu'r gwelyau a gwneud bwyd yn lle Let.
"Chewch chwi ddim gwneud y gwaith brwnt, cewch helpu gyda'r bwyd," meddai Let.