Erbyn hyn, nid oedd ei gwell yn y wlad am wneud bara. Er y deuai cerbyd bara heibio Maesycoed bob dydd, anaml iawn y prynai Beryl dorth. Gwyddai fod bara cartref yn iachach ac yn rhatach. Yr oedd yn dda ganddi, erbyn hyn, ei bod wedi gofyn i Let i'w dysgu i wneud bara cyn i'r cyfnewid mawr ddyfod ar eu byd.
Ond ni wnaethai deisen Nadolig na phwdin erioed. Gan eu bod wedi arfer cael pethau felly ym Modowen, ni byddai Nadolig yn Nadolig hebddynt. Ni fynnai Beryl ofyn i neb o wragedd yr ardal ei dysgu. Cymerai amser hir iddi hi ddyfod i deimlo'n eofn tuag at neb, ac nid oedd neb yn eofn tuag ati hithau. Yr oedd pobl yn barotach i fod yn eofn ar Nest.
Ryw nos Wener tua dechrau Rhagfyr, pan eisteddent bob un wrth y tân, daeth curo ar y drws, a phwy oedd yno ond Let! O, dyna falch oeddynt i weld eu hen forwyn ffyddlon! Cyn pen munud, yr oedd Geraint ac Enid yn eistedd ar ei chôl, a hithau â'i breichiau amdanynt yn eu cusanu bob yn ail a dywedyd, "O'r ddau hen gariad bach!" Ni chafodd neb fwy o groeso calon yn unman nag a gafodd Let ym Maesycoed y noson honno.