Gwirwyd y dudalen hon
Agor y Drws Dirgel.
DAETH y gwŷr a gludai ben Bendigaid Fran o'r diwedd i Harlech. A dyna'r cipolwg a gewch o syniad yr hen Gymry am y nefoedd,—lle heb farw ynddo, a bwyta diderfyn, a chanu cyfareddol. Dechreuasant eistedd ac ymddigonni â bwyd a diod. Daeth tri aderyn gan ddech- reu canu iddynt ryw gerdd a yrrai bob canu arall yn ddiflas. Ac er bod yr adar ymhell uwchben y môr, cyn amlyced oeddynt â phe byddent gyda hwy. Buont wrth y cinio am saith mlynedd. Yna cychwynasant tua Gwalas ym Mhenfro. Ac yno yr oedd iddynt le teg brenhinaidd uwchben y môr. A neuadd fawr oedd yno iddynt, ac i'r neuadd y cyrchasant. A'i