Gwirwyd y dudalen hon
harferion, pobl oedd yn byw yng Nghymru ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl, cyn bod sôn am na haearn na phres, cyn bod sôn am ddefnyddio dim ond carreg a phren a llestr pridd.
Wedi dyfod o hyd i'r pridd du,-ôl llawer o hen danau, symudwyd ef, a daeth pwyd o hyd i glai. A chyn belled ag y chwiliem wedyn, ar y gwastad hwn, ni chaem ddim ond clai. Dyna ni o'r diwedd wedi dyfod o hyd i lawr y tŷ. Wele felly, gartref yr hen Gymry,-wàl gron, a pholion o'i phen at bolyn a safai ar ganol y llawr, a'r polion hyn wedi eu cuddio à thywyrch a changhennau a dail. Dyna eu cysgod. Ac wele o'r tu mewn eu haelwyd, a'u melin, ac olion eu dull o ferwi cig. Dyna lawer o wybodaeth, onide, trwy ddim ond turio?